Tuesday, September 16, 2008

Straeon o'r Grugan

Hogyn o Ogledd Cymru, o'r Dyffryn Nantlle, Eryri.
O bentra'r Groeslon, un blinc gan basho drwodd a mae o di mynd, ond felna mai chadw hi.
Mae e'n ardal sy'n agos iawn i'm calon, ond weithia maen rhaid crwydro dipyn bach cyn medru gwerthfawrogi'r ffashwn petha. Bu'm yn ol am sbelan ychydig yn ol a fel y mab afradlon (heb y lladd) mi ailddarganfyddais yr hen adra. Adnewyddais y teimlad braf 'na y tyfish i fyny hefo, o fyw ymysg y mynyddoedd, y bryniau a'r cymoedd, a'm ffrindia.
Siaradais gyda un o'm ffrindia, ma nabod arno fo ers dyddia'r hen trwser pen glin (bedi oed chdi met?), ac ar ol dipyn i yfad mi aethom i mewn i un o'r sgyrsia na sy'n digwydd pam ma pawb digon chwil i alw enwa ar i gilydd ond digon call fel bo na'm ofni dwrn yn y clust. Gwrandodd ef arna fi yn son am y llefydd dwi di bod, a'r petha dwi di weld, a pam y crwydrwn, yn holi am lefydd prydferth, unigryw a hardd fel mai. Edrychodd o arna fi fel bo fi'n siarad trw'n nhwll. Odd o'm yn dallt, medda fo, pam fo pobol isho symud i rwla arall i chwilio am y petha yna. Sbia, medda fo, bob bora run peth, bob dydd mae o dal yna. Y lle hardda yn y byd i mi. Be 'di pwynt symud?
Doedd dim atab gen i iddo.
Mi ddoi'n ol arda rhyw ddydd. Ma hudoliaeth unigryw ynghanol Himaleias Eryri. Codi blas chwannag arna fi. Myfi, a'm locsyn a'r hen Sindi Croffyrd.

1 comment:

rhians said...

Dim peint Dolig yn Penionyn 'leni felly Gassa? Gobeithio gewch chi hwyl ( siwr fyddi di'n champion os ti hnnara mor cheeky a dy chwaer!). Rhiannon xx